Disgrifiad
Mae gan Amanda fechgyn sy’n efeilliaid dau fis oed pan aiff i fyw gyda’i gŵr i Saudi Arabia. Mae bywyd yn ei chartref newydd, yn rhan o deulu aml-genhedlaeth, yn teimlo’n rhyfedd iddi, yn swnllyd ac yn ddryslyd, yn elyniaethus ac yn frawychus ar adegau. Portread gafaelgar o fywyd yn carlamu tuag at drais – gyda diweddglo sy’n ysbrydoli.



