Disgrifiad
Yn ystod blynyddoedd olaf yr 19eg ganrif, tyfodd porthladd a dinas Southampton yn gyflym ac, er mwyn darparu ar gyfer y boblogaeth oedd yn tyfu, cododd system y tramiau. Ehangwyd ar y system hyd at ddiwedd y 1920au pan ddechreuodd edwino – er yr ataliwyd hyn rywfaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd – cyn ffarwelio gyda’r tramiau olaf ym mis Rhagfyr 1949.



