Disgrifiad
Ffuglen hanesyddol wedi ei gosod yn Llundain derfysglyd yn negawd olaf y 18fed ganrif. Portreadir Sarah Battle, gwraig ifanc sy’n dianc i’r Amerig o’i phriodas anhapus, gan ddarganfod cysur a gobaith ym myd llewyrchus a democrataidd dinas Philadelphia, er gwaethaf y cysgod a deflir gan fygythiad arswydus y cryd melyn.



