Disgrifiad
Er nad oes olion ohono wedi goroesi, chwaraeodd Rheilffordd Cwm Tawe ran bwysig ym mywyd Cwm Tawe, Cwmtwrch a Brynaman am dros gan mlynedd. Menter annibynnol ydoedd yn wreiddiol, ond fe’i ymgorfforwyd gan Reilffordd y Canolbarth, a thrwy hynny, drwy Aberhonddu i weddill y DU. Mae’r gyfrol ddarluniadol hon yn adrodd hanes y ganrif gyntaf.



