Disgrifiad
Erys Tom Pryce yn un o’r ffefrynnau ymysg gyrrwyr Fformiwla 1 yn y 1970au. Roedd gan y Cymro diymhongar reolaeth wych ar gar yn ystod oes aur rasio Grand Prix. Dros 40 mlynedd wedi ei farwolaeth ar gwrs rasio Kyalami, mae’r awduron Banks a Guthrie wedi cyfweld dros 60 o bobl oedd yn adnabod Tom, o’i ddyddiau ysgol cynnar ac ar hyd ei fywyd….



