Disgrifiad
Ar droad y mileniwm, mae cyfarwydd yn edrych yn ôl dros 2,000 o flynyddoedd er mwyn diddanu’r Dywysoges Scheherazade. Mewn cywaith argraffiadol llawn haenau, mae beirdd, arlunwyr a chwaraewyr yn ymgodymu ag anturwyr, dewiniaid a gofodwyr, gan ruthro tuag at y sgrin arian fawr a bygythiad theori’r llinyn.



