Description
Dychmygwch yr olygfa. Mam a’i mab ifanc yn sefyll ar bentir uchel ger Dulyn yn Iwerddon ac mae hi’n pwyntio at wlad fynyddig ar y gorwel.
“Dacw Wynedd,” meddai wrth ei mab. “Dyna deyrnas Cynan, dy dad. Bu’n rhaid iddo ffoi a gadael – ond rhyw ddiwrnod byddi di’n dychwelyd yno a thi fydd Brenin Gwynedd.”







