Disgrifiad
Mae Cymru yn wlad y cestyll. Adeiladwyd y rhai enwocaf yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Edward I er mwyn goresgyn y tywysogion brodorol ond mae’r mwyafrif i’w canfod ar draws de’r wlad ac ar hyd y ffin â Lloegr – ardal y Mers. Bu’r ardaloedd hyn yn achos cynnen rhwng y Cymry a’r Saeson am ganrifoedd, o gyfnod cychwynnol y Goresgyniad Normanaidd…



